Lleoliad:
Remote - Digital
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Gorffennaf 2023
Amser:
09.00 -
09.35
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Darren Millar AS Lesley Griffiths AS Heledd Fychan |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaethau y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Pwyllgor
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Gofynnodd Heledd Fychan am ddatganiadau'r Llywodraeth ar y Grant Hanfodion Ysgol a'r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol cyn toriad yr haf. Dywedodd y Trefnydd y byddai’n codi hyn gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ac y byddai diweddariadau yn debygol o gael eu darparu ar ffurf datganiadau ysgrifenedig.
Dydd Mercher
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig bod y Senedd yn ethol Buffy Williams yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn lle Sarah Murphy. Tynnodd y Llywydd sylw at hyn a’r ychwanegiadau a ganlyn at gyfarfod dydd Mercher:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio gan y grŵp Llafur yn y cyfarfod ddydd Mercher.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nid oedd unrhyw newidiadau i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Gofynnodd Heledd Fychan am ddiweddariad ar amserlen dadl Cyfnod 3 ar gyfer Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru). Dywedodd y Trefnydd fod dyddiad y ddadl yn dibynnu ar amserlen y Bil Caffael yn San Steffan ac y byddai'n diweddaru’r Rheolwyr Busnes cyn gynted ag y byddai rhagor o wybodaeth ar gael.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 27 Medi 2023 –
4 Deddfwriaeth
4.1 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Nododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd ar filiau Llywodraeth y DU sy’n gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Senedd, neu’n debygol o fod yn gofyn am gydsyniad, yn dilyn toriad yr haf.
5 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol ar gyfer 2024-25
Nododd y Pwyllgor Busnes bryderon y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr amserlen arfaethedig a’r ffaith bod Llywodraeth Cymru unwaith eto yn cynnig peidio â dilyn y protocol y cytunwyd arno rhwng y Senedd a’r Llywodraeth. Cadarnhaodd y Trefnydd fod hyn o ganlyniad i ansicrwydd ynghylch amseriad digwyddiad cyllidol hydref Llywodraeth y DU, a nododd y byddai’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ymateb yn ysgrifenedig i bryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Cyllid.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen arfaethedig ac y byddai’n ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i’w wahodd i ystyried adolygu gweithdrefnau’r gyllideb yn sgil profiad y blynyddoedd diwethaf.
5.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y Ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2023-24
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr. Nododd y Trefnydd nad oedd unrhyw bryderon wedi’u mynegi iddi hi na’r Pwyllgor Busnes cyn y ddadl ond cytunodd i drefnu dadleuon o’r math hwn yn y dyfodol am 30 munud.
6 Pwyllgorau
6.1 Trefniadau craffu ar gyfer Bil Diwygio'r Senedd a deddfwriaeth gysylltiedig
6.2 Bil Diwygio'r Senedd - amserlen
Trafododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau craffu ar gyfer Bil Diwygio’r Senedd a deddfwriaeth gysylltiedig, a chytunwyd ar y canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at y mater o ran a ddylai’r Bil Gweinyddu Etholiadol arfaethedig ar gyfer llywodraeth leol hefyd gael ei gyfeirio at y Pwyllgor Biliau Diwygio yn nhymor yr hydref.
7 Amserlen y Senedd
7.1 Dyddiadau Toriadau
Business Committee considered and confirmed the dates for Spring Half Term and Easter Recess 2024 and agreed provisional recess dates for Whitsun Half Term and Summer Recess 2024, adjusting the provisional dates of the Summer recess for 2024 as indicated below.
Recess |
Dates |
Summer Recess 2023 |
Monday 17 July 2023 - Sunday 10 September 2023 |
Autumn Half Term
|
Mon 30 October 2023 – Sunday 5 November 2023 |
Christmas Recess
|
Mon 18 December 2023 – Sunday 7 January 2024 |
Spring Half Term |
Monday 12 February 2024 – Sunday 18 February 2024 |
Easter Recess |
Monday 25 March 2024 – Sunday 14 April 2024 |
*Whitsun Half Term
|
Mon 27 May 2024- Sunday 2 June 2024 |
*Summer Recess |
Mon 22 July 2024 – Sunday 15 September 2024 |
* Provisional dates to be confirmed by Business Committee.
8.1 Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad yr haf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn a’r trefniadau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig yn ystod toriad yr haf.
9 Unrhyw fater arall
Balot Bil Aelod ac adolygiad o'r broses ddethol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal balot nesaf y Bil Aelod gan ddefnyddio’r gweithdrefnau presennol, cyn unrhyw adolygiad o’r broses ddethol y gall gytuno i’w gynnal wedi hynny.
Nododd y Pwyllgor hefyd ei bod yn fwriad gan y Llywydd i gyhoeddi yn ystod y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon y dyddiad yn nhymor yr hydref y cynhelir y balot nesaf ar y Bil Aelod, er mwyn galluogi’r Aelodau i baratoi.
8 Trefniadau cyflwyno